defra logo
|
 
Start of content

Partneriaeth Da Byw

Sefydlwyd y Bartneriaeth Da Byw i ddod o hyd i ffyrdd o symleiddio'r broses o adnabod ac olrhain da byw a'i gwneud yn fwy effeithiol o ran lleihau'r risg o ledaeniad clefydau anifeiliaid.

Y nod oedd ffurfio math newydd o bartneriaeth rhwng y diwydiant a'r Llywodraeth, gan alluogi'r rhai sy'n defnyddio'r prosesau a'r systemau i gael dylanwad uniongyrchol ar lunio'r ffordd y byddant yn gweithredu yn y dyfodol.

Yn sgîl sefydlu'r Bartneriaeth Da Byw, sefydlodd Defra ei grŵp cynghori ei hun i'r diwydiant er mwyn cefnogi a llywio'r Grŵp Llywio Gwybodaeth am Dda Byw (LISG). Mae'r grŵp hwn yn rhoi cyfeiriad strategol i ddatblygiadau sy'n ymwneud ag adnabod da byw a'u symudiadau.

Drwy hyn llwyddwyd i wneud cynnydd da. Mae datblygiadau a gwariant cyfalaf TG yn y dyfodol wedi bod yn destun adolygiadau TGCh Defra a Swyddfa Masnach y Llywodraeth ac maent wedi cymeradwyo gwaith pellach.

Nod y tudalennau gwe hyn yw rhoi gwybodaeth am y meysydd gwaith sydd ar waith yn y Bartneriaeth Da Byw a byddant yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am feysydd gwaith penodol wrth iddynt ddatblygu.

Addaswyd diwethaf: 14 February, 2011