defra logo
|
 
Start of content

Gwasanaeth Tanysgrifio Iechyd Anifeiliaid i Rybuddion am Glefydau

Nod gwasanaeth tanysgrifio Iechyd Anifeiliaid i rybuddion am glefydau, sy’n rhad ac am ddim yw eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am achosion o glefydau anifeiliaid.

Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at geidwaid da byw, ond mae ar gael i bawb. Gallwch gofrestru a dewis cael gwybodaeth drwy neges destun, ffacs, neges llais neu e-bost am hyd at bum clefyd hysbysadwy mewn anifeiliaid.

  • clwy'r traed a’r genau
  • y Tafod Glas
  • ffliw adar
  • clefyd Newcastle
  • clefyd clasurol y moch
  • clefydau ceffylaidd ecsotig

Tanysgrifio

Er mwyn cael rhybuddion neu eu rheoli ewch i’n tudalennau tanysgrifio neu ffoniwch 0844 8849888.

Mae’r gwasanaeth tanysgrifio yn ategu sianeli eraill Iechyd Anifeiliaid a Defra ar gyfer sicrhau bod y gymuned ffermio a rhanddeiliaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran clefydau hysbysadwy anifeiliaid, sef:

  • Llinell Gymorth Defra 08459 335577
  • Llinell wybodaeth wedi’i recordio Iechyd Anifeiliaid 0844 88 44 600
  • System negeseua sydyn Iechyd Anifeiliaid sy’n anfon negeseuon at gwsmeriaid lle cedwir manylion cyswllt.
  • Cofrestr Dofednod Defra ar 0800 634 1112

Noder os ydych yn rhanddeiliad/ceidwad da byw sydd eisoes yn derbyn negeseuon gan Iechyd Anifeiliaid, rydych wedi cael eich targedu’n benodol. Felly os ydych yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth tanysgrifio, cewch rai o’r un negeseuon drwy sianeli gwahanol.

Rhoi’r gorau i’r negeseuon

Os ydych wedi tanysgrifio i wasanaeth rhybuddion newyddion Iechyd Anifeiliaid ac yn dymuno rhoi’r gorau i’r tanysgrifiad neu os ydych yn derbyn negeseuon nad ydych yn dymuno eu cael, mewngofnodwch i reoli’ch tanysgrifiad.

Noder os ydych yn geidwad da byw cofrestredig (gyda rhif daliad) yna ni fydd yn bosibl i chi dynnu’ch enw oddi ar ein system. Gallwch ddiweddaru’ch manylion drwy gysylltu â’ch Swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol.

Addaswyd diwethaf: 15 February, 2011