Y Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl
Y Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl
Cefnogi masnach gynaliadwy drwy wasanaethau trwyddedu sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
CITES yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt Mewn Perygl, sef cytundeb rhyngwladol rhwng llywodraethau a ddaeth i rym yn 1975. Mae angen trwydded CITES er mwyn mewnforio, allforio neu ddefnyddio rhywogaethau penodol yn fasnachol.
Gwasanaeth trwyddedu a chofrestru bywyd gwyllt Iechyd Anifeiliaid yw'r rhan o awdurdod rheoli CITES y DU sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau o dan CITES.
Mae Iechyd Anifeiliaid hefyd yn ymdrin ag atal clefyd rhag lledaenu i mewn i Gymru, Lloegr a'r Alban ac allan ohonynt o ran anifeiliaid byw a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. Gweler ein hadran ar Fewnforion ac Allforion am ragor o wybodaeth.
|
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Cites, tanysgrifiwch.. |

