defra logo
|
 
Start of content

Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes


Rheolau Cyffredin y Cynllun o 1 Ionawr 2012

Mae’r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS) yn system sy’n caniatáu i gŵn, cathod a ffuredau anwes o unrhyw wlad  ddod i mewn i’r DU heb fynd i gwarantîn ar yr amod eu bod yn bodloni amodau’r cynllun.

Mae hefyd yn golygu y gall pobl yn y DU fynd â’u cŵn, cathod a ffuredau i unrhyw wlad , a’u dod â nhw yn ôl i’r DU ac ni fydd angen iddynt fynd i gwarantîn.

Mae’r rheolau wedi’u gosod er mwyn cadw’r DU’n rhydd rhag y gynddaredd a chlefydau penodol eraill.

Dod i mewn i’r DU

Gall cŵn, cathod a ffuredau ddod i mewn i’r DU o unrhyw wlad ar yr amod eu bod yn cydymffurfio’n llawn â gofynion PETS.
Ewch at wefan Defra am ganllawiau ar y Cynllun PETS.

Llwybrau Mynediad a Chwmnïau Cludo

Ar hyn o bryd, dim ond cwmnïau  a llwybrau cludo penodol y gellir eu defnyddio i ddod â chŵn, cathod a ffuredau anwes i Brydain Fawr. Mae rhestr o gwmniau a llwybrau cludo ar gael ar wefan Defra.

Os ydych yn gwmni cludo sy’n dymuno cludo anifeiliaid anwes i Brydain Fawr, bydd angen i chi ofyn am gymeradwyaeth o flaen llaw gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) i wneud hynny am fod y cwmni sy’n cludo sy’n gyfrifol am archwilio’r anifeiliaid i sicrhau eu bod yn bodloni rheolau’r Cynllun Teithio cyn iddynt ddod i Brydain Fawr. Gall cwmniau cludo ddirprwyo’r archwiliadau hynny i drydydd parti i’w cyflawni ar eu rhan, ond bydd angen cymeradwyaeth o flaen llaw o hyd.

P’un a ydych yn gwmni cludo seiliedig yn y DU neu y tu allan i’r DU, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa/swyddfeydd AHVLA perthnasol sy’n ymdrin â’r porthladdoedd neu feysydd awyr yr hoffech ddod ag anifeiliaid anwes i mewn iddynt. Bydd y swyddfa AHVLA yn eich hysbysu am y camau nesaf i gael cymeradwyaeth. I gael gwybod pa swyddfa AHVLA yw’r un perthnasol a sut i gysylltu â hwy, cliciwch ar Cysylltiadau.

Mae canllawiau ynglŷn â’r archwiliadau sy’n ofynnol gan gludwyr a gofynion y Cynllun PETS ar gael yn y canllaw Archwiliadau Cludwyr ar Anifeiliaid Anwes (COPP):

  • Archwiliadau Anifeiliaid Anwes – Cludwyr Awyr
  • Archwiliadau Anifeiliaid Anwes – Cludwyr Môr a Rheilffordd

Cŵn Cymorth a Chludwyr Awyr Cymunedol Cofrestredig

Dylai cludwyr awyr cymunedol cofrestredig sy’n dymuno cludo cŵn cymorth i Brydain Fawr gyfeirio at y canllawiau sydd ar gael yn www.defra.gov.uk/wildlife-pets/pets/travel/pets/assistance-dogs/. I ddod â chŵn cymorth i Brydain Fawr, bydd angen iddynt gael Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) cytûn a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gwasanaethau Arbenigol AHVLA yn Chelmsford. Yn ogystal â’r canllawiau, mae copi gwag o’r MOU ar gael isod:

  • Canllawiau ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU)
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU)

Ar ôl cytuno arno, mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn caniatau i Gludwyr Awyr Cymunedol Cofrestredig gludo Cŵn Cymorth Cydnabyddedig i mewn i unrhyw Faes Awyr cymeradwy yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr MOU cytûn. Mae rhestr o Feysydd Awyr cymeradwy a Chludwyr Cofrestredig ar gael ar wefan Defra.

Gweithdrefnau Cŵn Cymorth ar gyfer Meysydd Awyr

Dylai meysydd awyr sydd am gael cymeradwyaeth gysylltu â’u swyddfa AHVLA leol. Byddant yn gallu cynnig cyngor ynghylch yr amodau ar gyfer cymeradwyo, yn ychwanegol at y canllawiau isod;

  • Canllaw i Feysydd Awyr i ddarparu cyfleusterau archwilio ar gyfer Cŵn Cymorth Cydnabyddedig
  • Protocol Maes Awyr ar gyfer Mynediad Cŵn Cymorth o dan y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes
  • Protocol Maes Awyr: Manylion cyswllt

Ble i ddechrau

Mae’r cynllun PETS yn cael ei weinyddu yn y DU gan Filfeddygon Swyddogol (OVs) ar ran Defra. Cysylltwch â’ch practis milfeddyg lleol - bydd ganddyn nhw gopïau o basbortau PETS, microsglodion a brechiadau rhag y gynddaredd ac maent yn rhoi cyngor ar ble i ddechrau gyda’r cynllun.

Canllawiau pellach ar y cynllun PETS

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ar wefan Defra sy’n cynnwys canllawiau ynglŷn â:

  • beth y mae’n rhaid i berchnogion anifeiliaid anwes ei wneud
  • sicrhau bod eich taith yn mynd rhagddo’n braf
  • gwledydd, llwybrau a chwmnïau trafnidiaeth
  • beth y mae’n rhaid i Filfeddygon ei wneud
  • sïon sicr y cynllun PETS
  • taflenni ffeithiau

Llinell gymorth y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes

Gellir cael canllawiau ychwanegol gan Linell gymorth y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes a Chanolfan Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Anifeiliaid ar gyfer Mewnforion - Adran Cwarantîn. Mae’r manylion i’w gweld isod:

Llinell gymorth y Cynllun PETS

Rhif ffôn: +44 (0)870 241 1710 – Dydd Llun i ddydd Gwener – 8yb i 6yh amser y DU (ac eithrio Gwyliau Banc).

Canolfan Gwasanaethau Arbenigol AHVLA ar gyfer Mewnforion

Rhif ffôn: +44 (0) 1245 454860

Mae rhif minicom/ffôn testun ar gael hefyd ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw: 0845 300 1998

Ffacs: +44 (0) 1245 458749

E-bost: PetTravel@ahvla.gsi.gov.uk - rhowch eich cyfeiriad post a rhif ffôn i’ch galw yn ystod y dydd. 

Pet Travel Section
Animal Health and Veterinary Laboratories Agency
Government Offices
Beeches Road
Chelmsford
Essex
CM1 2RU

Addaswyd diwethaf: 13 April, 2012