Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Carcasau anifeiliaid, rhannau o garcasau anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl yw sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABPs). Maent yn cynnwys:
- gwastraff arlwyo
- hen olew coginio
- hen fwyd
- gwastraff cigyddion a lladd-dai
- gwaed
- plu
- gwlân
- crwyn
- stoc trig
- anifeiliaid anwes
- anifeiliaid sw a syrcas
- troffïau hela
- tail
- ofa
- embryonau a semen.
Gall sgil-gynhyrchion anifeiliaid beri risg i iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd. Er enghraifft, mae defnydd amhriodol o sgil-gynhyrchion anifeiliaid wedi arwain i achosion o glefydau difrifol megis clwy’r traed a’r genau, clwy clasurol y moch, ffliw adar a lledaeniad enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE). Mae deddfwriaeth wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd i reoli’r risgiau drwy osod rheolau ar gyfer casglu, storio, cludo, prosesu, defnyddio a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Ceir 3 categori o sgil-gynhyrchion anifeiliaid gyda phob un yn adlewyrchu eu lefel o risg. Gweler ein tudalen Categorisation of animal by-products am fwy o wybodaeth
Adolygwyd y ddeddfwriaeth gyda chyflwyniad Rheoliad (CE) 1069/2009 a Rheoliad (UE) 142/2011 a ddisodlodd Rheoliad (CE) 1774/2002 ar 4ydd Mawrth 2011. Mae Rheoliadau’r UE yn cael eu gorfodi drwy:
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Lloegr) 2011
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Yr Alban) 2011
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011
Oni nodir yn llawn, cyfeirir at Reoliad (CE) 1069/2009 a’i reoliad gweithredu cyfatebol Rheoliad (UE) 142/2011 fel Rheoliad Rheoli’r UE a Rheoliad Gorfodi’r UE drwy gydol y canllaw hwn.
Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth, gan gynnwys unrhyw randdirymiadau sy’n berthnasol i wlad benodol, ar:

