defra logo
|
 
Start of content

Bioddiogelwch

Mae arfer bioddiogelwch da yn helpu i leihau'r risg o glefydau neu'r risg y bydd clefydau yn lledaenu, gan ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid a sicrhau dichonoldeb busnesau.
Mae bioddiogelwch da yn sicrhau:

  • Tawelwch meddwl, stoc iach a busnes mwy dichonadwy
  • Mae'n diogelu eich cymdogion a chefn gwlad
  • Mae'n cadw clefydau newydd allan
  • Mae'n lleihau lledaeniad clefydau
  • Mae'n cadw anifeiliaid yn iach
  • Mae'n lleihau costau atal a thrin
  • Mae'n gwella effeithlonrwydd fferm.

Mae'r neges yn un syml:

  • efallai na fydd clefyd yn amlwg bob amser - yn enwedig yn ystod y cyfnodau cynnar
  • byddwch yn lân, yn enwedig os ydych yn trin anifeiliaid neu'n symud rhwng safleoedd gwahanol
  • mae trefn bioddiogelwch dda yn hanfodol bob amser, nid dim ond os oes achos o glefyd ecsotig, mae'n helpu i ddiogelu rhag clefydau endemig hefyd.

Mae pob un sy'n dod i gysylltiad â da byw, neu'r amgylchedd lle maent yn byw, yn gyfrifol am chwarae ei ran wrth helpu i osgoi effeithiau dinistriol clefydau anifeiliaid.

Dylid mabwysiadu arfer bioddiogelwch da fel mater o drefn fel rhan o arferion rheoli'r fferm i helpu i leihau'r risg o glefydau ecsotig a baich clefydau endemig. Dylai cynlluniau bioddiogelwch fod yn rhan o gynllun iechyd unrhyw fuches neu braidd.

Am ragor o gyngor ar gynllunio iechyd fferm:

Arfer bioddiogelwch da

Arferion bioddiogelwch allweddol

  • Prynu stoc newydd / Dychwelyd eich stoc i'r fferm
  • Hylendid
  • Bwyd a dŵr glân
  • Gwahanu ac ynysu
  • Rheoli Slyri
  • Olrhain ac adnabod
  • Gwaredu stoc trig a sgîl-gynhyrchion anifeiliaid

Prynu stoc newydd a dychwelyd eich stoc i'r fferm

Sicrhewch eich bod yn gwybod statws iechyd yr anifeiliaid rydych yn eu prynu neu'n eu symud bob amser!

  • Dylid cadw stoc newydd a stoc sy'n dychwelyd ar wahân i weddill y fuches/praidd. Trafodwch gyda'ch milfeddyg a chytunwch ar amserlen brofi
  • Defnyddiwch offer a staff ar wahân neu ceisiwch drin stoc a gedwir ar wahân yn olaf
  • Gwnewch yn siŵr bod adeiladau cadw ar wahân mor agos â phosibl i fynedfa'r fferm a bod 3 metr rhyngddynt ac adeiladau eraill lle cedwir da byw
  • Os byddwch yn defnyddio padog, gwnewch yn siŵr bod 3 metr rhyngddo a'r anifeiliaid eraill ar y fferm (a defnyddiwch ffens ddwbl)
  • Gwaredwch hen wellt fel na all da byw eraill ddod i gysylltiad ag ef.

Mae risg y caiff clefydau eu cyflwyno gan anifeiliaid a brynwyd i mewn. Mae hierarchaeth risg wrth gael gafael ar anifeiliaid; ni allwch fod yn hollol sicr bod anifail yn rhydd o glefyd ond gallwch bennu lefel y risg ac mae'n werth gwneud hynny. Mae ffynonellau da byw cadw yn dylanwadu ar lefel y risg.

Mae anifeiliaid yn y categori risg isaf yn cynnwys y canlynol:

  • Anifeiliaid o fuchesi â chynllun iechyd yr ardystiwyd eu bod yn rhydd o glefydau penodol
  • Anifeiliaid o fuchesi â chynllun iechyd sy'n cael eu monitro am glefydau penodol
  • Buchesi o un ffynhonnell â statws clefyd hysbys
  • Anifeiliaid o sawl ffynhonnell â statws clefyd hysbys
  • Buchesi o un ffynhonnell â statws clefyd anhysbys neu lle y gwyddys fod achosion o'r clefyd wedi digwydd.

Mae anifeiliaid yn y categori risg uchaf yn cynnwys y canlynol:

  • Anifeiliaid o sawl ffynhonnell â statws clefyd anhysbys neu lle y gwyddys fod achosion o'r clefyd wedi digwydd.

Ceir arferion allweddol y dylid eu defnyddio fel mater o drefn i leihau'r risg y ceir achosion o glefydau ar y fferm neu y bydd clefydau yn lledaenu ar y fferm.

Dylai prynwyr:

  • Fod yn ymwybodol pa glefydau sy'n peri'r risgiau mwyaf.
  • Gwybod pa gwestiynau i'w gofyn i ddarpar werthwyr i nodi pa mor debygol ydyw bod clefyd yn bresennol (er enghraifft, gofynnwch am ddyddiad a chanlyniad y prawf TB diwethaf a wnaed ar y fuches dan sylw neu annog y gwerthwyr i drefnu bod prawf TB yn cael ei gwblhau cyn prynu unrhyw anifeiliaid).;
  • Ymgynghori â'u milfeddyg a datblygu cynllun iechyd cyffredinol (mae hwn yn gyfle i lunio cynllun hirdymor i'w ymgorffori yn system reoli'r fferm).
  • Archwilio anifeiliaid, ar y fferm wreiddiol os oes modd, cyn eu prynu lle y bo'n bosibl.
  • Cadw anifeiliaid newydd ar wahân i'r brif fuches neu braidd am gyfnod priodol o amser (gan gynnwys lle ceir anifeiliaid o fuchesi yr ardystiwyd eu bod yn rhydd o glefydau penodol). Ceir gofynion deddfwriaethol o ran gwahanu ac ynysu anifeiliaid o dan y Cyfyngiadau ar Symud Anifeiliaid er mwyn Rheoli Clefydau Anifeiliaid. Dylid archwilio da byw sy'n cael eu cadw ar wahân yn ofalus yn rheolaidd yn ystod y cyfnod gwahanu.
  • Prynu anifeiliaid yn uniongyrchol o'r fferm wreiddiol, os oes modd, ac osgoi cymysgu anifeiliaid wrth eu cludo.
  • Bod yn ymwybodol, os prynwch anifeiliaid wedi'u heintio, efallai y byddwch yn peryglu eich cymdogion.

Dylai gwerthwyr:

  • Datblygu cynllun iechyd gyda'u milfeddyg.
  • Bod â gwybodaeth i ddarpar brynwyr am statws clefyd y fuches sy'n cyflenwi anifeiliaid i'w gwerthu.
  • Rhoi manylion am y prawf TB a brwsela diwethaf a roddwyd arnynt neu drefnu bod y fuches yn cael ei phrofi cyn gwerthu unrhyw anifeiliaid.

Hylendid

Dylai cynlluniau bioddiogelwch fod yn rhan o unrhyw Gynllun Iechyd buches/praidd. Mae hylendid da yn gofyn am ymdrech barhaus gan bawb sy'n delio â da byw fferm. Bydd y canllawiau canlynol yn helpu i atal clefydau anifeiliaid rhag lledaenu:

Diheintyddion

  • Dim ond diheintyddion cymeradwy y dylid eu defnyddio a'u gweinyddu yn unol â chyfraddau gwanhau a chyfarwyddiadau labelu penodol.

Pobl

  • Rhowch hyfforddiant ar egwyddorion hylendid a diogelu rhag clefydau i'ch staff.
  • Dylech gynnwys arwyddion sy'n cyfeirio ymwelwyr at y ffermdy/swyddfa ac sy'n annog ymwelwyr i beidio â rhoi bwyd i anifeiliaid neu fynd yn agos atynt.
  • Dylech leihau nifer y bobl sy'n ymweld â'ch fferm; ystyriwch osod blwch post ar ddiwedd y dramwyfa sy'n arwain at eich fferm.
  • Lle y bo'n bosibl dylid darparu llain galed i ffwrdd oddi wrth dda byw ar gyfer cerbydau ymwelwyr.
  • Cadwch y buarth a'r ardal o'i amgylch yn lân ac yn daclus i gadw fermin draw.
  • Rhowch ddeunyddiau glanhau a diheintio i bob ymwelydd/gweithiwr.
  • Ystyriwch gynnig dillad/esgidiau diogelu.
  •  Argymhellir gwisgo esgidiau Welington ar ffermydd am eu bod yn hawdd eu glanhau a'u diheintio. Defnyddiwch frws llaw i lanhau deunydd oddi ar yr esgid a rhowch yr esgid/sawdl yn y toddiant diheintydd. Brwsiwch i ffwrdd oddi wrth eich wyneb/llygaid a sicrhewch nad yw'r toddiant diheintydd yn cyffwrdd y croen. Nodyn pwysig: Mae diheintydd yn aneffeithiol os oes baw ar yr esgidiau. Felly mae angen eu glanhau'n drylwyr cyn defnyddio diheintydd.
  • Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr ar ôl trin da byw.
  • Ceisiwch osgoi gwisgo dillad ac esgidiau brwnt oddi ar y fferm. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch yn ymweld â marchnadoedd, sioeau, ffermydd a safleoedd eraill lle ceir da byw.

Adeiladau, cyfarpar a cherbydau

  • Dylid cadw cerbydau yn lân y tu mewn a'r tu allan iddynt.
  • Glanhewch a diheintiwch gerbydau ac ôl-gerbydau (â phibell ddŵr bŵer os oes modd).
  • Talwch sylw i rannau o'r cerbyd lle y gall baw fod 'wedi'i guddio', e.e. bwâu olwynion.
  • Glanhewch a diheintiwch unrhyw gyfarpar a rennir neu a huriwyd cyn ac ar ôl ei ddefnyddio.
  • Dylai anifeiliaid a gedwir dan do gael gwellt sych a glân ffres yn rheolaidd. Gall wrin, ysgarthion, gwaed ac ati mewn hen wellt achosi halogiad ac felly dylid cael gwared arno i ffwrdd oddi wrth dda byw, pobl a chyrsiau dŵr.
  • Glanhewch a diheintiwch adeiladau a chyfarpar ar ôl iddynt gael eu defnyddio gan dda byw.
  • Dylid cael gwared ar gyfarpar a ddefnyddiwyd, e.e. dillad tafladwy, triniaethau milfeddygol (megis syringâu), yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth: Glanhau a diheintio cerbydau da byw (dolenni i wefan Defra) 

Porthiant a Dŵr

Gall nifer o glefydau gael eu lledaenu gan borthiant a dŵr halogedig. Gellir lleihau'r risg drwy gymryd y camau canlynol:

  • defnyddio dŵr o'r prif gyflenwad lle bynnag y bo modd.
  • sicrhau bod powlenni dŵr neu declynnau yfed yn ddigon uchel fel na chânt eu halogi ag ysgarthion.
  • osgoi halogi cyrsiau dŵr.
  • glanhau cafnau porthiant a dŵr yn rheolaidd.
  • atal cŵn a chathod rhag cerdded mewn cafnau porthiant.
  • cadw porthiant mewn storfa lân a sych.
  • sicrhau bod storfeydd porthiant wedi'u gorchuddio ac ar gau i sicrhau na all cŵn, cathod, fermin na bywyd gwyllt fynd i mewn iddynt.
  • gwaredu hen borthiant neu borthiant wedi'i faeddu yn ddiogel.
  • Gwaherddir bwydo â golchion (gweler ein tudalennau Cadw Anifeiliaid)

Gwahanu ac ynysu

Nodir isod ganllawiau sylfaenol ar arfer gwahanu ac ynysu da sylfaenol:

  • Cadwch anifeiliaid newydd ar wahân i weddill eich buches/stoc nes y bydd eich milfeddyg yn siŵr nad oes ganddynt unrhyw glefydau. Mewn llawer o achosion bydd rhwng 13 ac 20 diwrnod, gan ddibynnu ar yr anifail, yn rhoi digon o amser i unrhyw glefyd ddod i'r amlwg. Mewn achosion eraill, er enghraifft brwselosis, efallai y bydd angen cadw heffrod bridio ar wahân i'r brif fuches nes y byddant wedi bwrw llo yn naturiol, hyd at flwyddyn ar ôl eu prynu.
  • lleihau hyd yr eithaf ar gyfleoedd i drwynau'r anifeiliaid gyffwrdd â thrwynau stoc cyfagos.
  • Sicrhewch fod gennych ffiniau cadw stoc.
  • Archwiliwch ffiniau yn rheolaidd.
  • Ataliwch anifeiliaid rhag crwydro ar y ffyrdd.
  • Os ydych yn defnyddio tiroedd pori comin ceisiwch ynysu stoc newydd cyn eu troi allan i bori ar diroedd pori comin.
  • Cadwch ymwelwyr a'u cerbydau i ffwrdd oddi wrth dda byw.
  • Pan welir arwyddion cyntaf salwch, ynyswch anifeiliaid sâl, gyda'r fam os yw'n briodol, ac archwiliwch bob un o'r anifeiliaid eraill yn y fuches/praidd ac ati. Ar ôl hynny, dylech drin anifeiliaid wedi'u hynysu yn olaf.

Rheoli Slyri

Gall heintiau oroesi mewn slyri a thail. Gellir lleihau'r risg drwy gymryd y camau canlynol:

  • gwasgarwch slyri ar dir âr yn hytrach na glaswellt a ddefnyddir i wneud silwair neu bori stoc. Os na allwch wneud hyn, peidiwch â gadael i dda byw fynd ar y tir am chwe wythnos ar ôl gwasgaru'r slyri.
  • gwasgarwch slyri gan ddefnyddio plât gwasgaru â'i ben i waered.
  • ceisiwch osgoi defnyddio gwasgarwyr a huriwyd neu a rennir os oes modd. Fodd bynnag, os na allwch osgoi rhannu gwasgarwyr, sicrhewch eu bod yn cael eu glanhau'n drylwyr cyn dod ar eich fferm ac unwaith eto cyn gadael.

Olrhain ac Adnabod

Mae gofynion cyfreithiol ar gyfer cofrestru da byw a safleoedd, adnabod anifeiliaid, bridio a chofnodion symudiadau. Mae'r gallu i olrhain stoc yn gyflym yn bwysig er mwyn rheoli clefydau yn effeithiol.

Mae'n rhaid i geidwaid gwartheg, defaid, moch, geifr, dofednod a cheirw fferm fod wedi'u cofrestru ac mae'n rhaid tagio eu hanifeiliaid yn unol â'r gyfraith, hyd yn oed os mai dim ond un anifail sy'n cael ei gadw.

Am ragor o wybodaeth gweler yr adran Cadw Anifeiliaid o'r wefan hon.

Gall cerbydau a phobl ledaenu clefydau. Byddai cofnodion ymwelwyr a dosbarthiadau yn hwyluso ymchwiliadau milfeddygol i glefydau hysbysadwy.

Gwaredu stoc trig a sgîl-gynhyrchion anifeiliaid

Mae sgîl-gynhyrchion anifeiliaid (ABPs) yn garcasau anifeiliaid, rhannau o garcasau neu gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl. Mae hyn yn cynnwys gwastraff arlwyo, olew coginio a ddefnyddiwyd, hen fwydydd, gwastraff cigyddion a lladd-dai, gwaed, plu, gwlân, crwyn, stoc trig, anifeiliaid anwes, anifeiliaid sŵ a syrcas, troffïau helfeydd, tail, ofa, embryonau a semen.

Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i nodi sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a'u casglu a'u cludo a'u gwaredu'n ddiogel.

Am ragor o wybodaeth gweler yr adran Sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Canllawiau i geidwaid da byw

Canllawiau i geidwaid dofednod

Canllawiau ar grynoadau anifeiliaid

Glanhau a diheintio

Addaswyd diwethaf: 4 August, 2011