Twbercwlosis Buchol (bTB)
Mae Iechyd Anifeiliaid yn ymchwilio i bob achos o glefyd hysbysadwy a amheuir. Os byddwch yn amau arwyddion o dwbercwlosis buchol, rhaid i chi hysbysu eich swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol ar unwaith.
Y RISG I'CH ANIFEILIAID
Cyflwyniad
Mae 'Twbercwlosis’ (TB) yn glefyd difrifol sy'n effeithio ar famaliaid twymwaed sydd wedi'u heintio â bacteria Mycobacterium tuberculosis (MTB). Mae MTB yn rhan o grŵp o facteria sy'n dwyn perthynas agos ag ef sy'n cynnwys:
- Mycobacterium bovis (M. bovis) (sy'n gyfrifol am TB mewn gwartheg a mamaliaid eraill)
- M. tuberculosis (prif gyfrwng TB mewn pobl)
- M. bovis BCG (math gwannach o M. bovis a ddefnyddir fel brechlyn rhag TB dynol)
Mae twbercwlosis buchol (bTB) yn glefyd mewn gwartheg sydd wedi'u heintio â bacteria M. bovis, ac mae'n un o'r problemau mwyaf cymhleth o ran iechyd anifeiliaid sy'n wynebu'r diwydiant ffermio ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd. Mae'n glefyd hysbysadwy ac mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol os ydych yn amau achos o'r clefyd.
Ceir rhagor o wybodaeth am M. bovis ar wefan Defra.
Mae TB buchol yn glefyd cronig a gall gymryd blynyddoedd i ddatblygu. Mae M. bovis yn tyfu'n araf iawn a dim ond bob 12-20 awr y mae'n atgynhyrchu. Fel arfer y nodau lymff ym mhen yr anifail sy'n dangos yr arwyddion cyntaf o haint ac wrth i'r clefyd ddatblygu bydd briwiau yn dechrau datblygu ar yr ysgyfaint a cheudod y frest.
Am fod yr haint yn datblygu'n araf, erbyn hyn anaml y gwelir arwyddion clinigol bTB, megis gwendid, pesychu a cholli pwysau, mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr. Mae rhaglen profi a lladd orfodol y Llywodraeth yn sicrhau bod y rhan fwyaf o fuchesi yn cael eu profi am bTB o leiaf bob pedair blynedd. Mae'r profion hyn yn nodi'r rhan fwyaf o wartheg heintiedig cyn i arwyddion clinigol y clefyd ddod i'r amlwg.
Taflen wybodaeth: Twbercwlosis buchol: Beth ydyw? Pam rydym yn profi gwartheg amdano? Sut rydym yn ei ganfod? (PDF 858KB)
Gall M. bovis hefyd heintio moch daear, ceirw, geifr a llawer o famaliaid eraill, gan gynnwys pobl, ac achosi clefyd ynddynt. Dylech roi gwybod am achosion o bTB a gadarnhawyd neu a amheuir mewn rhywogaethau eraill i'ch swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol, er nad oes rhaglen statudol reolaidd ar gyfer cynnal profion bTB ar rywogaethau eraill.
- Taflen Wybodaeth: Twbercwlosis mewn ceirw (PDF 686KB)
- Taflen Wybodaeth: Twbercwlosis mewn mamaliaid (PDF 1.09MB)
IMae gwybodaeth i ffermwyr am leihau'r risg y caiff pobl eu heintio â M. bovis ar gael ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.
Sut y mae TB buchol yn cael ei ledaenu?
Mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch bTB a sut y mae'n cael ei drosglwyddo. Mae TB buchol yn cael ei ledaenu'n bennaf drwy gyfnewid secretiadau anadlol rhwng anifeiliaid wedi'u heintio ac anifeiliaid heb eu heintio. Mae'r haint yn cael ei drosglwyddo fel arfer pan fydd anifeiliaid mewn cysylltiad agos â'i gilydd. Gall bacteria a ollyngir i'r aer drwy besychu a thisian drosglwyddo'r clefyd i anifeiliaid heb eu heintio.
Mae trosglwyddiad o fuwch i fuwch yn cyfrannu'n fawr at ledaenu'r clefyd ac ategir hyn gan dystiolaeth wyddonol.
Adolygwyd y dystiolaeth o'r cysylltiad rhwng bTB mewn moch daear a bTB mewn gwartheg yn 1997 gan y Grŵp Adolygu Gwyddonol Annibynnol, dan arweiniad yr Athro John Krebs.
Taflen Wybodaeth: Deall y risg o dwbercwlosis buchol i wartheg sy'n gysylltiedig â bywyd gwyllt (PDF 1.12MB)
Gall y clefyd gael ei ledaenu gan gyfarpar, porthiant a slyri halogedig hefyd.

