Bylchau rhwng profion plwyf
Mae Defra, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i osod bylchau rhwng profion TB sy’n aliniedig â’r peryglon rhanbarthol o ddal TB ac sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE. Cyflawnir hyn drwy gynnal, gydag Iechyd Anifeiliaid, adolygiad cenedlaethol o fylchau rhwng profion TB ar sail flynyddol.
Bylchau rhwng profion plwyf
Y bwlch rhwng profion plwyf yw’r amlder sy’n cael ei rhagosod ar gyfer cynnal profion TB rheolaidd ar fuchesi sydd wedi’u lleoli mewn plwyf (fel a bennir gan ei rhif CPH). Mewn rhai amgylchiadau, gall amlder profi buches benodol fod yn wahanol i’r buchesi eraill yn y plwyf. Pan fydd amgylchiadau o’r fath yn codi, bydd Iechyd Anifeiliaid yn hysbysu perchennog y fuches honno yn unol â hynny.
Ysgrifennir at berchnogion buchesi yn Lloegr bob blwyddyn i’w cynghori ynglŷn â’u bwlch profi. Ysgrifennir at berchnogion buchesi yng Nghymru a’r Alban pan fydd eu bwlch profi yn newid yn unig. Yn hanesyddol, cyfrifwyd bylchau rhwng profion plwyf drwy fonitro’r lefel o TB mewn ardal benodol yn y 6 blynedd diwethaf, ond yn awr mae Lloegr, Cymru a’r Alban yn cymryd ymagweddau gwahanol. Yn 2010, cafodd dull seiliedig fwy ar risg tuag at osod bylchau profi ei gymhwyso yn Lloegr, ac fe’i cytunwyd y bydd y dull hwn yn parhau yn 2011 fel yr amlinellir isod.
Y bylchau rhwng profion plwyf a phrofion buches yw’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu os bydd perchennog buches yn gymwys neu wedi’i heithrio rhag y gofynion profi cyn symud.
Bylchau rhwng profion plwyf ar gyfer Lloegr, Cymru a’r Alban yn 2011
Chwiliwch am eich bwlch rhwng profion plwyf ar gyfer y flwyddyn 2011 Chwiliad Bwlch Profi.
Fel arall, lawrlwythwch y rhestrau cyflawn ar gyfer Lloegr, Cymru a’r Alban isod.
Lloegr
Cymhwyswyd dull gwahanol o gyfrifo bylchau rhwng profion plwyf yn Lloegr o 2010.
Yn draddodiadol, cyfrifwyd bylchau profi drwy ddefnyddio ffigurau o achosion hanesyddol o TB sy’n “dilyn” lledaeniad yr haint. Ers 2010, mae’r Llywodraeth wedi dilyn argymhellion y Grŵp Dileu TB (TBEG) i ddatblygu ymagwedd ragweithiol at amlderau profi, sy’n gosod y bylchau rhwng profion TB ar sail y darlun clefyd ar hyn o bryd. Gan hynny, bu’r ymagwedd at fylchau rhwng profion plwyf a gyflwynwyd yn 2010 yn fwy rhagweithiol na’r trefniant blaenorol, gan ei fod yn ceisio bod cam ar y blaen i heintiadau mewn ardaloedd lle cafwyd nifer fawr o achosion o TB neu lle bu perygl i hynny ddigwydd. Mae’r dosbarthiad mwy cydlynol o fylchau profi ar draws Lloegr a gafodd ei fabwysiadu yn 2010, a fydd yn parhau yn 2011, yn fwy cyson â’r epidemioleg a pherygl o TB ym mhob rhanbarth.
Mae ychydig o dystiolaeth wedi awgrymu bod rhywfaint o ymlediad daearyddol cyfyngedig pellach wedi bod, a chynyddiad yn y risg o TB mewn rhai ardaloedd. O ganlyniad, mae’r ardal brofi flynyddol graidd wedi cael ei ehangu mewn rhai mannau ar gyfer 2011, ac mae’r byffer profi bob 2 blynedd cyfan wedi cael ei ehangu hefyd, yn enwedig yn Sir Gaer a Dwyrain Canolbarth Lloegr. Wrth wneud hyn mae’r byffer profi bob 2 blynedd ac ardaloedd profi bob 4 blynedd wedi’u cysoni’n unol â gofynion deddfwriaeth yr UE (Cyfarwyddeb 64/432/GEE (fel y’i diwygiwyd) ).
Darllenwch y ddogfen Holi ac Ateb (PDF 179KB) a’r ddogfen polisi (PDF 116KB) am fwy o fanylion am ymagwedd Lloegr at fylchau rhwng profion plwyf ers 2010.
Daeth y bylchau rhwng profion plwyf newydd i rym ar 1 Ionawr 2011 ac maent yn cael eu manylu isod yn ‘Rhestr o Fylchau rhwng Profion Plwyf yn Lloegr’. Ysgrifennodd Iechyd Anifeiliaid at berchnogion buchesi yn unigol i gadarnhau beth fydd eu bwlch rhwng profion plwyf a phrofion buches..
- Rhestr o Fylchau rhwng Profion Plwyf yn Lloegr (PDF 1.02MB)
Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu y bydd angen i berchnogion gwartheg yng Nghymru gyfan cael profion TB yn flynyddol yn 2011. Penderfynir ar amlder profion yn y dyfodol o 2011 ymlaen yn dilyn dadansoddiad pellach o ganlyniadau Archwiliad Iechyd Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dychwelyd i’r arfer o gyfrifo amlder profion TB ar lefel plwyf. O ganlyniad i brofion blynyddol, bydd rhaid i bob ceidwad gwartheg yng Nghymru gydymffurfio â gofynion Profi Cyn Symud wrth symud gwartheg o 1 Ionawr 2010.
Yr Alban
Er gwaethaf statws Rhydd o TB yn Swyddogol yr Alban, bydd y broses o gynnal prawf TB bob 4 blynedd yn cael ei chadw yn yr Alban am y tro er mwyn goruchwylio yn erbyn achosion achlysurol o TB.
Mae’r ddolen isod yn rhestr o blwyfi’r Alban a’u cyfnodau profi.
- Rhestr o Fylchau rhwng Profion Plwyf yn yr Alban (PDF 500 kb)
Map o Fylchau rhwng Profion Plwyf
Mae map o Brydain Fawr sy’n cynnwys y bylchau rhwng profion plwyf o 1 Ionawr 2011 ar gael isod:
- Map Bylchau rhwng Profion Plwyf Prydain Fawr (PDF 3.5Mb)

