defra logo
|
 
Start of content

14 Chwefror 2012 – Feirws Schmallenberg: diweddariad ar ganlyniadau profion Prydain Fawr

Mae’r feirws Schmallenberg (SBV) bellach wedi cael ei ganfod mewn samplau a gyflwynwyd o 40 fferm yn ne a dwyrain Lloegr, ar draws siroedd Norfolk, Suffolk, Essex, Caint, Dwyrain Sussex, Gorllewin Sussex a Swydd Hertford. Mae pob un o’r siroedd lle canfuwyd yr haint SBV yn y parthau a nodwyd fel parthau a allai fod mewn perygl o wybed heintiedig a gafodd eu chwythu ar draws yr haf diwethaf o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ar dir mawr gogledd Ewrop.

Ac eithrio un sampl gwartheg SBV cadarnhaol o fferm yng Ngorllewin Sussex, mae pob achos o haint SBV ym Mhrydain Fawr hyd yma wedi cael eu canfod mewn defaid.

Ffigurau yn gywir ar 13 Chwefror 2012.


Sir

Safleoedd â haint wedi’i gadarnhau
(seiliedig ar arwyddion clinigol a chanfod yr haint)

 

Defaid

Gwartheg

Geifr

Norfolk

10

0

0

Suffolk

11

0

0

Essex

3

0

0

Caint

6

0

0

Dwyrain Sussex

6

0

0

Swydd Hertford

1

0

0

Gorllewin Sussex

2

1

0

Cyfanswm

39

1

0

Gweler y dudalen ar y feirws Schmallenberg ar wefan y VLA am wybodaeth gefndir.

Mae AHVLA hefyd wedi cyflwyno nodyn gwybodaeth ar gyfer ffermwyr a milfeddygon ym Mhrydain Fawr

Cyhoeddwyd ar: 28 February, 2012