Yr hawl i weld gwybodaeth
Os hoffech wneud cais am wybodaeth gan Iechyd Anifeiliaid, neu ddysgu mwy am eich hawliau a diogelu data, yna bydd y tudalen hwn yn helpu i’ch cyfeirio at y wybodaeth ddiweddaraf.
Rhyddid Gwybodaeth
Ar 1 Ionawr 2005, daeth Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym yn llawn. Dilynwyd y rhain gan y Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2005. Diben y wefan hon yw esbonio ystyr y darnau o ddeddfwriaeth ynglŷn â gwybodaeth, sut i wneud cais neu gwŷn am gais am wybodaeth a gedwir gan Iechyd Anifeiliaid, a sut yr ymdrinnir â chais/cwyn o’r fath. Mae’r safle hefyd yn rhestru ceisiadau diweddar a broseswyd eisoes.
- Fy hawliau o dan Ryddid Gwybodaeth
- Fy hawliau o dan y Ddeddf Diogelu Data
Deddfwriaeth ynglŷn â Gwybodaeth
- Deddf Diogelu Data 1998 sy’n gysylltiedig â ‘data personol’ a gedwir gan Iechyd Anifeiliaid.
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i Gymru a Lloegr, neu Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban) 2002 i’r Alban.
- Mae Gwybodaeth Amgylcheddol wedi’i gwmpasu gan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (Cymru a Lloegr), neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (yr Alban) 2004 i’r Alban.
- Mae’r rheoliadau ar gyfer ailddefnyddio gwybodaeth a ddarperir o dan y ddeddfwriaeth uchod i’w gweld yn Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2005.
Gwneud cais am Wybodaeth
Cyn gwneud cais, edrychwch ar wefannau Iechyd Anifeiliaid a Defra i weld a yw’r wybodaeth ar gael yno eisoes.
Er mwyn gwneud cais am wybodaeth, lawrlwythwch y ffurflen Cais am Wybodaeth (PDF 106KB).
Os ydych yn ceisio am eich manylion personol, mae’n rhaid amgáu siec am £10 yn daladwy i Animal Health am dal Deddf Diogelu Data 1998.
Os byddwch yn gwneud cais am ddata personol mewn perthynas ag erlyniad neu drethiant, lawrlwythwch y ffurflen gais Adran 29 o Ddeddf Diogelu Data (PDF 106KB).
Download the up to date list of Access to Information requests (PDF 461KB).
Gwarant Gwasanaeth Cyhoeddus ar Drin Data
Bydd Iechyd Anifeiliaid yn prosesu pob cais am wybodaeth yn unol â’r darn perthnasol o ddeddfwriaeth, a bydd yn ymdrechu i roi ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.
Darllenwch Warant Gwasanaeth CyhoeddusIechyd Anifeiliaid ar drin data a’r esboniad o’r warant y mae’n ei gynnwys.
Cynllun Iaith Cymraeg
Mae’r cynllun yn cadarnhau’r egwyddor y bydd Iechyd Anifeiliaid yn trin yr ieithoedd Saesneg a Chymraeg yn gyfartal tra’n trafod busnes cyhoeddus yng Nghymru. Gweler ein tudalen Cynllun Iaith Cymraeg.
Cynllun Cyhoeddi Iechyd Anifeiliaid
Mae’r cynllun cyhoeddi yn ganllaw i wybodaeth allweddol sy’n cael ei chyhoeddi neu ddarparu’n rheolaidd gan Iechyd Anifeiliaid. Mae’n canolbwyntio ar wybodaeth sy’n ymwneud â’n prif ddyletswyddau gweithredol, cynghorol a hyrwyddol, a hefyd ar y safonau a chanllawiau a ddefnyddiwn i wneud penderfyniadau.
Mae llawer mwy o wybodaeth am Iechyd Anifeiliaid ar gael trwy gysylltu â’n Gwasanaeth Ymholiadau, ar ein gwefan neu yn ein cyfres o gyhoeddiadau.
Lawrlwythwch Gynllun Cyhoeddi Iechyd Anifeiliaid (PDF 371KB).
Hysbysiad Prosesu Teg (Datganiad Diogelu Data)
Mae Hysbysiad Prosesu Teg Datganiad Diogelu Data) Iechyd Anifeiliaid yn rhoi manylion am y dibenion y mae Iechyd Anifeiliaid yn casglu data a’r defnydd a allai cael ei wneud o’r wybodaeth, gan gynnwys â phwy y gellir rhannu’r wybodaeth.
Mae fersiwn o’r hysbysiad ar gyfer gofrestr ddofednod Prydain Fawr ar gael ar ein tudalen datganiad data.
Gwybod Mwy Amdanoch Chi
Os ydych yn un o’n cwsmeriaid (h.y. perchennog neu geidwad da byw) efallai yr ydych yn darparu gwybodaeth i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig, Llywodraeth yr Alban neu Lywodraeth Cynulliad Cymru yn barod. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud ein gwaith, ond nid yw’n diwallu ein hanghenion iechyd anifeiliaid yn gyfan gwbl.
Gweler mwy o wybodaeth ar ein tudalen ‘Mwy Amdanoch Chi’.
Costau Busnes Personol
Mae costau busnes personol ar gael i’w lawrlwytho. Dewiswch y ffigurau chwarterol yr hoffech eu gweld isod:
- Chwarter 1 2010-11 – Ebrill–Mehefin 2010 (PDF 68KB)
- Chwarter 2 2010-11 – Gorffennaf-Medi 2010 (PDF 31KB)
- Cwarter 3 2010-11 – Hydref-Rhagfyr 2010 (PDF 107KB)
Cwynion
Os na fyddwch yn fodlon ar safon y gwasanaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’ch cais ac yr hoffech wneud cwyn, dylech ysgrifennu at:
Head of Corporate Services
Animal Health Corporate Centre
Block C
Government Buildings
Whittington Road
Worcester
WR5 2LQ
e-bost: corporate.centre@animalhealth.gsi.gov.uk a fydd yn trefnu adolygiad mewnol o’ch achos.
Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gawsoch o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gallwch wneud cais am adolygiad mewnol o fewn dau fis calendr o ddyddiad y llythyr hwn.
Os oedd eich cais am wybodaeth yn cael ei gwmpasu gan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, rhaid i’ch apêl gyrraedd Iechyd Anifeiliaid o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr hwn. Ni dderbynnir apeliadau a gafwyd ar ôl y terfynau amser hyn.
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad yr adolygiad mewnol, mae hawl gennych i wneud cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Noder, yn gyffredinol, na all y Comisiynydd Gwybodaeth wneud penderfyniad hyd nes y byddwch wedi dilyn gweithdrefn gwyno Iechyd Anifeiliaid. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Information and Service Standards Manager
Animal Health Corporate Office
C3 Government Buildings
Whittington Road
Worcester
WR5 2LQ
Rhif ffôn: 01905 763355 (oriau swyddfa yn unig)
Ffacs: 01905 768851
e-bost: corporate.centre@animalhealth.gsi.gov.uk
Rhagor o Wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn â’r hawl i weld gwybodaeth yn:

