Cymorth gyda’r wefan
Cynulleidfa a diben y safle
Bwriad y safle hwn yw ymdrin ag anghenion gwybodaeth llawer o gynulleidfaoedd gwahanol posibl – y cyhoedd, defnyddwyr, ffermwyr a thyfwyr, y diwydiant bwyd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, plant ysgol, myfyrwyr, athrawon ac academyddion ac yn y blaen. Mae wedi’i strwythuro i gyflwyno gwybodaeth syml yn gyntaf, ac yn dangos mwy o fanylion ymhellach i mewn i’r safle.
Adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau ar beth yr hoffech i ni ei gyhoeddi ar y safle, neu ar unrhyw broblemau technegol sydd gennych gyda’r safle. E-bostiwch Wefeistr Iechyd Anifeiliaid.
Llywio’r safle
Gan fod llawer fawr ac amrywiaeth eang o wybodaeth ar ein safle, efallai y byddwch yn ei chael hi’n hawsach ddefnyddio ein mynegai A-Y i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd eisiau arnoch.
Gosodiad tudalen – ffeindio’ch ffordd o gwmpas y safle
Mae’r rhan fwyaf o’r tudalennau ar y safle mewn fformat safonol, yn debyg i’r dudalen hon. Mae hyn wedi cael ei brofi ar amrywiaeth o borwyr a systemau. Mae’r wefan wedi’i dylunio i gael ei gweld orau ar eglurder sgrîn 1024x768 picsel, ond dylai’r cynnwys ddangos heb anhawster ar eglurder is.
Ar bob tudalen sy’n dilyn y fformat hwn, gallwch weld pa faes pwnc o’r safle yr ydych yn edrych arno (mae prif feysydd pwnc y safle wedi’u rhestri ar y dudalen gartref) trwy edrych ar y prif bennawd ar frig y sgrîn. Yn syth o dan y pennawd yma, fe welwch nifer o ddolenni i dudalennau allweddol y safle - dylai’r rhain fod yr un fath, pa un bynnag dudalen yr ydych yn edrych arni.
Ar lawer o dudalennau byddwch yn gweld adran llywio o dan logo Iechyd Anifeiliaid, sy’n dangos ble’r ydych chi o fewn hierarchaeth y safle, ac yn darparu dolenni yn ôl i dudalennau mwy cyffredinol yn yr un maes. Er enghraifft:
Rydych chi yma: Hafan > Amdanom ni > Cysylltwch â ni
Bydd ochr chwith y sgrîn fel arfer yn cynnwys dolenni i dudalennau cysylltiedig ar yr un pwnc.
Ar waelod y dudalen byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar y dyddiad yr addaswyd y dudalen diwethaf, a dolenni pellach i dudalennau allweddol ar y safle.
Chwilio
Gallwch chwilio’r ffeiliau testun ar wefan Defra trwy ddefnyddio’r botwm Chwilio uchod i ddod â’r sgrîn chwilio i fyny. Rhowch y gair neu eiriau i chwilio amdanynt yn y blwch, wedyn dechreuwch y chwiliad trwy bwyso Enter.
Lawrlwytho ffeiliau neu ddogfennau
Fe’ch cynghorir i arbed ffeiliau mawr neu ffeiliau sydd angen i chi eu gweithio arnynt (ffurflenni rhyngweithiol PDF, Excel neu ddogfennau Word) ar eich cyfrifiadur.
Ar eich cyfrifiadur trwy ddefnyddio porwr gwe Microsoft Internet Explorer:
de-gliciwch y ddolen
dewiswch “save target as”
dewiswch leoliad addas ar eich cyfrifiadur
Ar eich cyfrifiadur trwy ddefnyddio’r porwr gwe Netscape:
de-gliciwch ar y ddolen
dewiswch “savelink as”
dewiswch leoliad addas ar eich cyfrifiadur
Fformatau Ffeil
Mae’r safle hwn, yn bennaf, yn defnyddio ffeiliau o’r pum math canlynol:
(Bydd angen i ddefnyddwyr gael llwytho’r feddalwedd gywir ar eu peiriannau i wneud defnydd llawn o’r wybodaeth sydd ar gael.)
HTML
HTML yw’r fformat ffeil sylfaenol a ddefnyddir ar y Rhyngrwyd, mae’r dudalen hon mewn fformat HTML. Ein polisi yw gwneud cymaint o wybodaeth â phosibl yn y fformat hwn. Weithiau, am resymau technegol, efallai y bydd rhywfaint o ddata ar gael yn y fformatau eraill canlynol.
PDF
Mae dogfennau sydd wedi’u marcio fel PDF yn cael eu harbed mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). Er mwyn eu darllen bydd angen copi o Adobe Acrobat Reader arnoch chi. Mae’r meddalwedd Acrobat Reader ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.
Efallai y bydd defnyddwyr gydag anawsterau gweledol yn ei chael hi’n ddefnyddiol i ymchwilio gwasanaethau a ddarparir gan Adobe i wella hygyrchedd dogfennau Adobe Acrobat - http://www.adobe.com
Sylwer: Nid ydym fel arfer yn cyhoeddi dogfennau sydd wedi cael eu sganio, ond weithiau mae hyn yn anasgoadwy. Byddwn yn ceisio gwneud dogfennau o’r fath mor hygyrch â phosibl, ond os nad ydych yn gallu darllen unrhyw ddogfennau sydd wedi cael eu sganio, cysylltwch â ni a byddwn yn ymdrechu i ddarparu’r deunydd mewn fformat mwy hygyrch.
DOC
DOC yw’r math o ffeil ar gyfer dogfennau a grëwyd trwy ddefnyddio Microsoft WORD. Mae hwn yn becyn prosesu geiriau a ddefnyddir yn eang.
XLS
XLS yw’r math o ffeil ar gyfer dogfennau a grëwyd trwy ddefnyddio Microsoft EXCEL. Mae hwn yn becyn taenlen a ddefnyddir yn eang.
CSV
Mae CSV yn sefyll am Comma Separated Values ac yn cyfateb i daenlen .txt ar gyfer prosesyddion geiriau. Gallwch dorri a chludo ffeil CSV i mewn i daenlen o’ch dewis neu lawrlwytho i’ch cyfrifiadur.

