Y Wefan: Telerau ac Amodau
Ar y dudalen hon:
- Defnyddio ein gwefan
- Creu hyperddolen i wefan Iechyd Anifeiliaid
- Hyperddolenni i wefannau trydydd parti
- Diogelu rhag firysau
- Ymwadiad
- Adborth
Defnyddio ein gwefan
Caiff gwefan Iechyd Anifeiliaid ei chynnal er mwyn i chi edrych arni a’i defnyddio at ddiben personol. Mae agor a defnyddio’r safle hwn yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, a ddaw i rym ar y dyddiad pan fyddwch yn defnyddio’r safle am y tro cyntaf.
Creu hyperddolen i wefan Iechyd Anifeiliaid
Mae Iechyd Anifeiliaid yn annog defnyddwyr i greu dolenni hyperdestun i’r safle hwn, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen uniongyrchol at y tudalennau sydd ar y safle hwn. Serch hynny, nid ydym yn fodlon i chi lwytho ein tudalennau i fframiau ar eich safle. Mae’n rhaid i dudalennau Iechyd Anifeiliaid lwytho i ffenestr gyfan ar sgrin y defnyddiwr.
Hyperddolenni i wefannau trydydd parti
Nid yw Iechyd Anifeiliaid yn gyfrifol am gynnwys na ddibynadwyedd gwefannau y ceir dolenni atynt ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt. Nid yw’r ffaith eu bod wedi’u rhestru yma yn unrhyw fath o gymeradwyaeth. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio trwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni atynt.
Diogelu rhag firysau
Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam o’r broses greu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd sy’n cael ei lwytho i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddata sy’n mynd ar goll, yn cael ei amharu arno neu’n cael ei ddifrodi, nac am unrhyw ddifrod i system eich cyfrifiadur wrth ddefnyddio deunydd ar y wefan.
Ymwadiad
Mae gwefan Iechyd Anifeiliaid a deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau'r Llywodraeth (neu sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau unrhyw drydydd parti), yn cael eu darparu ‘fel y maent’, heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un a ydynt yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.
Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o wefan Iechyd Anifeiliaid.
Bydd y Telerau ac Amodau uchod yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Lloegr a Chymru.
Adborth
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ac awgrymiadau ar beth yr hoffech i ni ei gyhoeddi ar y safle. E-bostiwch Wefeistr Iechyd Anifeiliaid.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwaith a pholisïau Iechyd Anifeiliaid, neu am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni.

